SL(6)565 – Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag aelodaeth a gweithdrefnau Byrddau Iechyd Lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru.

Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn darparu bod y Rheoliadau yn angenrheidiol i sicrhau bod byrddau holl gyrff y GIG yn ddarostyngedig i'r un meini prawf cymhwysedd a phrosesau penodi.

Mae’r Memorandwm Esboniadol hefyd yn darparu, er nad oes dyletswydd statudol i ymgynghori, mae swyddogion wedi ymgynghori â Chadeiryddion, Prif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr Llywodraethu ac Ysgrifenyddion Byrddau holl Gyrff y GIG yn ogystal â’r Undebau Llafur a gydnabyddir gan y cyrff GIG hynny ar y diwygiadau arfaethedig i’r Rheoliadau, ac y caiff y diwygiadau “eu cefnogi yn eang” gan randdeiliaid. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) - ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 4, mae’r disgrifiad o leoliad y testun i’w ddiwygio yn ddiffygiol gan nad yw’n nodi’r paragraff a rhifau’r Atodlen lle ceir “is-baragraff (1)” yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009.   Nid yw’n ddigonol datgan “paragraff 2 o Atodlen 2” ym mhennawd y rheoliad oherwydd nad yw’r penawdau yn rhan weithredol o’r offeryn. Mae diwygiadau tebyg a wneir gan reoliad 5, rheoliad 11 a rheoliad 15 yn cynnwys, yn gywir, yr holl fanylion yng nghorff y rheoliad yn ogystal ag yn y pennawd.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 6 Ionawr 2025 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd uchod.